Carfan Cymru wedi’i chyhoeddi ar gyfer gemau ail-gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Norwy

Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi ei charfan ar gyfer Rownd Terfynol y Gemau ail gyfle Cwpan y Byd Menywod yn erbyn Norwy, wrth i Gymru geisio cyrraedd Cwpan y Byd Menywod FIFA am y tro cyntaf.

Gall Cymru fod dwy gêm i ffwrdd o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027 ym Mrasil yr haf nesaf, gyda dwy gêm yn erbyn Norwy yn rownd derfynol gemau ail gyfle.

Bydd Cymru’n croesawu Norwy i Gaerdydd ar gyfer y gêm gyntaf ar ddydd Mawrth 1 Rhagfyr (KO 7:15pm), cyn teithio i Stadiwm Ullevaal, Oslo, ar gyfer yr ail gêm bedwar diwrnod yn ddiweddarach, ar ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr (KO 4pm GMT / 5pm CET).

Mae Hayley Ladd, Olivia Clark, Ceri Holland, Ella Powell a Rhiannon Roberts yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli allan tro diwethaf oherwydd anafiadau. Mae Gwen Zimmerman hefyd yn dychwelyd i’r garfan.

Os bydd tîm Wilkinson yn llwyddiannus yn rownd derfynol y gemau ail gyfle, ac yn gorffen ymhlith y saith enillydd yn Rownd 2 sydd â’r safleoedd uchaf, byddant yn cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027 yn awtomatig.

Fodd bynnag, os bydd Cymru’n llwyddiannus ond yn cael ei rhestru’n wythfed ymhlith enillwyr Rownd 2, byddant yn symud ymlaen i Gemau ail gyfle Traws-gyfandir Cwpan y Byd Menywod FIFA ym mis Chwefror 2027, am un cyfle olaf i gyrraedd Cwpan y Byd. Mae esboniad llawn o’r broses ar gael yma.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yng Nghaerdydd ar gael i’w prynu ar wefan docynnau CBDC, am £10 i oedolion a £5 i blant, gyda gostyngiadau ar gael i aelodau’r Wal Goch.

Bydd y ddwy gêm hefyd yn cael eu darlledu’n fyw ar BBC Cymru.

Cymru: Olivia CLARK (Leicester City), Soffia KELLY (Aston Villa), Safia MIDDLETON-PATEL (Watford – on loan from Manchester United), Hannah CAIN (Everton), Mayzee DAVIES (Manchester City), Gemma EVANS (Newcastle United), Olivia FRANCIS (Wolverhampton Wanderers), Casi GREGSON (Newcastle United), Mared Griffiths (Manchester United), Ceri HOLLAND (Liverpool), Elise HUGHES (Sunderland), Sophie INGLE (Bristol City), Angharad JAMES (Seattle Reign), Lois JOEL (Newcastle United), Carrie JONES (IFK Norrköping), Hayley LADD (Crystal Palace), Esther MORGAN (Bristol City), Mary MCATEER (Ipswich Town – on loan from Charlton Athletic), Phoebie POOLE (Watford), Ella POWELL (Bristol City), Rhiannon ROBERTS (Sunderland), Rachel ROWE (Nottingham Forest), Tianna TEISAR (Watford), Lily WOODHAM (Liverpool), Chloe WILLIAMS (Wolverhampton Wanderers), Gwen ZIMMERMAN (Northwestern NCAA).