
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cyhoeddi wyth cynrychiolydd newydd i’w Chyngor, gan nodi carreg filltir arwyddocaol arall yn y gwaith o gyflwyno Diwygiadau Llywodraethu ‘Gyda’n Gilydd yn Gryfach ar gyfer y Dyfodol’.
O 1 Awst 2026 ymlaen, bydd yr aelodau Cyngor newydd yn cynrychioli hyfforddwyr, chwaraewyr, cefnogwyr a phobl ifanc, gan sicrhau bod gan bawb sydd yng nghanol pêl-droed Cymru leisiau cryfach wrth lunio dyfodol y gêm.
Mae’r penodiadau’n dilyn proses recriwtio agored a lansiwyd yn gynharach eleni, gyda Bwyllgor Enwebu a Recriwtio CBDC yn dewis chynrychiolwyr yr hyfforddwyr, y chwaraewyr a’r cefnogwyr.
Mae cynrychiolwyr y Cyngor Ieuenctid yn ymuno â’r Cyngor drwy eu swyddi fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd Cyngor Ieuenctid CBDC, tra’n bod yn ran o broses recriwtio gystadleuol i gynrychioli pobl ifanc ledled pêl-droed Cymru.
Bydd yr wyth penodiad yn dod a profiad eithriadol i Gyngor CBDC, gan gyfuno gwybodaeth bêl-droed ar y lefel uchaf ag arbenigedd ym meysydd llywodraethu, arweinyddiaeth, addysg, cydraddoldeb, ymgysylltu cymunedol a cynllunio strategol.
Dywedodd Llywydd CBDC, Mike Jones: “Mae pêl-droed yng Nghymru’n gryfach pan fydd y bobl o amgylch bwrdd y Cyngor yn adlewyrchu’r bobl sydd yn gwneud ein gêm yn un mor arbennig.”
“Mae’r penodiadau hyn yn dod â chymysgedd rhagorol o brofiadau, gwybodaeth a safbwyntiau newydd ynghyd, gan sicrhau hefyd fod lleisiau chwaraewyr, hyfforddwyr, cefnogwyr a phobl ifanc yn cael eu cynrychioli wrth i ni lunio dyfodol pêl-droed Cymru.”
“Mae’n bleser croesawu pob un o’n Haelodau Cyngor newydd, ac rwy’n gwybod y byddant yn gwneud cyfraniad sylweddol wrth i ni barhau i adeiladu ar draddodiadau pêl-droed Cymru wrth edrych ymlaen yn hyderus at y dyfodol.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr CBDC, Noel Mooney: “Un o uchelgeisiau ein Diwygiadau Llywodraethu oedd i sicrhau bod y bobl sydd yn helpu ni i lunio dyfodol pêl-droed Cymru yn well adlewyrchiad o’r gêm rydym yn ei gwasanaethu heddiw.”
“Mae’r penodiadau hyn yn sicrhau hynny. Rydym yn croesawu unigolion sydd â phrofiad rhagorol o bêl-droed elît, pêl-droed llawr gwlad, cefnogi’n timau, llywodraethu a datblygu cymunedau, ochr yn ochr â phobl ifanc a fydd yn cynrychioli cenhedlaeth nesaf pêl-droed Cymru.”
“Hoffwn longyfarch pob un o’n Haelodau Cyngor newydd. Mae nhw’n dod a phrofiadau a safbwyntiau gwahanol, ac rwyf yn edrych ymlaen i weithio gyda nhw wrth i ni barhau i adeiladu dyfodol hyd yn oed gryfach i bêl-droed yng Nghymru.”
Cynrychiolwyr yr Hyfforddwyr
Lauren Smith
Mae Lauren Smith yn dod â phrofiad helaeth o lefel uchaf y gêm broffesiynol.
Fel Is-Rheolwr Tîm Menywod Dinas Manceision, mae Lauren yn hyfforddwr â Thrwydded UEFA Pro, ac mae ei gyrfa wedi cynnwys arwain tîm Menywod D19 Lloegr a fe wnaeth hi rheoli tîm Dinas Bryste i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair Menywod yn Lloegr (WSL).
Roedd Lauren yn gweithio gyda’r CBDC yn flaenorol fel rhan o dîm hyfforddi Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru, gan gefnogi datblygiad parhaus y tîm hŷn a llwybr y chwaraewyr ifanc.
Bydd ei phrofiad yn y gêm elît, datblygu hyfforddwyr, ac amgylcheddau perfformiad uwch yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr wrth i’r Gyngor barhau i gefnogi pêl-droed ar bob lefel o’r gêm.
Nana Baah
Mae Nana Baah yn ymuno â’r Cyngor ar ôl bron i ugain mlynedd o hyfforddi ac arwain ym mhêl-droed ddomestig Cymru.
Fel Rheolwr Tîm Cyntaf yn Cardiff Draconians ac Addysgwr Hyfforddwyr gyda CBDC, mae Nana wedi datblygu chwaraewyr ac hyfforddwyr ledled system pêl-droed Cymru, gan helpu clybiau i symud ymlaen ar y cae ac oddi ar y cae.
Yn ogystal â’i yrfa hyfforddi, mae ei waith gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru yn adlewyrchu ei ymrwymiad i gydraddoldeb, cynhwysiant, a chreu amgylcheddau pêl-droed positif i bawb.
Bydd ei ddealltwriaeth o bêl-droed llawr gwlad, addysg hyfforddi a datblygu clybiau yn sicrhau bod profiadau hyfforddwyr ledled Cymru yn cael eu cynrychioli’n gryf.
Cynrychiolwyr y Cefnogwyr
Dr Penny Miles
Mae Dr Penny Miles wedi treulio degawdau yn dilyn timau Cymru gartref ac oddi cartref, ac wedi dod yn un o’r lleisiau gryfach yn cynrychioli’r chefnogwyr ym mhêl-droed Cymru.
Yn gefnogwr i Dimau Cenedlaethol Dynion a Menywod Cymru, mae Penny yn gyd-sefydlydd y mudiad Wal Goch y Menywod, gan helpu sefydlu a datblygu mudiad cefnogwyr Tîm Cenedlaethol y Menywod.
Mae hefyd wedi bod yn rhan o Grŵp Cydraddoldeb CBDC ers 2019 ac ar hyn o bryd mae’n Gyd-is-gadeirydd, gan gyfrannu at drafodaethau ynghlyn a cydraddoldeb ledled pêl-droed Cymru.
Ochr yn ochr â’i gwaith fel darlithydd ac ymchwilydd, mae gwaith academaidd Penny yn archwilio cefnogaeth bêl-droed Cymru, hunaniaeth genedlaethol a diwylliant cefnogwyr, gan roi dealltwriaeth unigryw iddi o’r ffordd y mae pêl-droed yn cysylltu cymunedau ledled Cymru.
Gareth Watts
Yn ymuno â Penny mae Gareth Watts, penodiad sydd yn cyfuno angerdd oes dros bêl-droed Cymru â phrofiad helaeth o lywodraethu ar lefel bwrdd.
Fel aelod o’r Wal Goch ers dros 35 mlynedd ac rhywun sydd wedi mynd trwy rhaglen Arweinydd Pêl-droed Achrededig CBDC, mae Gareth wedi cefnogi pêl-droed ar y lefel ryngwladol ac efo clybiau llawr gwlad yn ei gymuned leol.
Yn broffesiynol, mae Gareth yn Gyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol ac Ysgrifennydd y Bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae wedi cynnal nifer o swyddi llywodraethu uwch ar draws y sector cyhoeddus.
Bydd ei arbenigedd yn y meysydd llywodraethu, atebolrwydd, cynllunio strategol ac arweinyddiaeth sefydliadol yn cryfhau gwaith y Cyngor yn sylweddol, gan sicrhau bod cefnogwyr yng nghanol y broses benderfynu.
Cynrychiolwyr y Chwaraewyr
Ben Davies
Ben Davies, Capten Cymru, yw un o’r ffigurau mwyaf ym mhêl-droed Cymru ac mae’n ymuno â’r Cyngor gan ddod â safbwynt chwaraewr elît sydd wedi cynrychioli ei wlad drwy un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus hanes Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru.
Gyda profiadau mewn pencampwriaethau rhyngwladol ac Uwch Cynghrair Lloegr, mae gan Ben dealltwriaeth o’r gofynion sy’n wynebu chwaraewyr moder. Bydd arweinyddiaeth Ben a’i ddealltwriaeth uniongyrchol o’r gêm broffesiynol yn sicrhau bod llais y chwaraewyr yn parhau i fod yn rhan ganolog o ddatblygu pêl-droed Cymru yn y dyfodol.
Charl Galloway
Mae Charl Galloway yn dod â chyfuniad unigryw o brofiad chwarae, arbenigedd llywodraethu ac angerdd dros wneud pêl-droed yn fwy cynhwysol.
Fel chwaraewr yn y Genero Adran South, mae Charl wedi profiadu twf parhaus o fewn y gêm ddomestig menywod, gan ddeall hefyd yr heriau sy’n wynebu clybiau a chwaraewyr ledled y system pêl-droed yng Nghymru.
Sefydlodd Charl y Ganolfan Hyfforddi Her Game Too, gan greu cyfleoedd i fenywod a merched gael mynediad at bêl-droed mewn amgylchedd croesawgar a chynhwysol.
Fel Aelod Annibynnol o Grŵp Cydraddoldeb CBDC ac yn gyn-Gadeirydd CPD Dreigiau Caerdydd, clwb pêl-droed LGBTQ+ cyntaf Cymru, mae Charl yn cyfuno profiad helaeth o bêl-droed gymunedol â gyrfa broffesiynol o fewn y meysydd dadansoddi busnes, cyflwyno prosiectau a llywodraethu sefydliadol.
Bydd eu profiad yn darparu safbwynt pwysig o safbwynt y chwaraewyr, gan gryfhau dealltwriaeth y Cyngor o gynhwysiant, cyfranogiad a thwf parhaus pêl-droed menywod.
Cynrychiolwyr y Cyngor Ieuenctid
Eleeza Khan
Mae Eleeza Khan yn ymuno â Chyngor CBDC fel Cadeirydd Cyngor Ieuenctid CBDC, gan ddod ag angerdd dros sicrhau bod pêl-droed yn hygyrch i bawb, beth bynnag eich cefndir.
Yn eiriolwr cryf dros gynyddu cyfleoedd i ferched a menywod yn y gêm, mae Eleeza yn gweithio i chwalu’r stigma na all merched o’i chymuned gymryd rhan mewn pêl-droed.
Mae eisoes yn arwain drwy esiampl, fel dyfarnwr bêl-droed llawr gwlad wrth barhau i hyrwyddo cynrychiolaeth a chyfranogiad ehangach yn y gamp.
Y tu hwnt i bêl-droed, mae Eleeza yn wirfoddolwr gweithgar i nifer o sefydliadau gan gynnwys Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, SEF Cymru ac ACE Cymru, gan ddangos ei hymrwymiad i gefnogi pobl ifanc a chryfhau cymunedau.
Mae ei phenodiad yn sicrhau y bydd safbwyntiau’r genhedlaeth nesaf yn chwarae rhan bwysig i lunio dyfodol pêl-droed Cymru.
Begw Elain
Yn ymuno ag Eleeza ar Gyngor CBDC mae Begw Elain, Is-gadeirydd Cyngor Ieuenctid CBDC, gyda’i phrofiad yn adlewyrchu ymrwymiad hirdymor i wirfoddoli a phêl-droed llawr gwlad.
Wedi gwirfoddoli yn ei chlwb lleol o oedran ifanc, mae Begw wedi cyflawni amryw o swyddi, gan gweithio ar bwyllgorau’r clwb on ogystal a fod yn swyddog y cyfryngau i’r clwb.
Mae’r profiad wedi rhoi dealltwriaeth werthfawr iddi o’r ymrwymiad a’r ymroddiad sydd angen a’r bêl-droed llawr gwlad ledled Cymru.
Yn ddiweddar bu Begw yn rhan o Raglen Fentora ‘Be Football’ CBDC, gan ddatblygu ei hyder, ei sgiliau cyfathrebu a’i harweinyddiaeth, wrth gryfhau ei gallu i weithio’n hyderus yng Nghymraeg ac yn Saesneg.
Mae ei phenodiad yn sicrhau bod profiadau gwirfoddolwyr ifanc gyda chlybiau llawr gwlad yn cael eu cynrychioli ar y lefel uchaf o lywodraethu pêl-droed Cymru.
Pam mae’r penodiadau hyn yn bwysig?
Mae’r penodiadau hyn yn ymwneud â llawer mwy na llenwi swyddi ar Gyngor CBDC.
Maent yn cynrychioli cam pwysig arall yn y gwaith o gyflwyno Diwygiadau Llywodraethu ‘Gyda’n Gilydd yn Gryfach ar gyfer y Dyfodol’, gan sicrhau bod arweinyddiaeth y sefydliad yn adlewyrchu’n well y gêm fodern yng Nghymru a’r bobl sy’n ei gwneud yn llwyddiannus bob dydd.
Gyda’i gilydd, mae’r wyth Aelod Cyngor newydd yn cynrychioli ehangder pêl-droed Cymru.
O gapten Cymru ac hyfforddwyr elît i wirfoddolwyr llawr gwlad, mae pob penodiad yn dod â safbwynt a set o sgiliau gwahanol.
Ar y cyd, maent yn cryfhau Cyngor CBDC gydag arbenigedd sy’n ymestyn ar draws y gêm elît, addysg hyfforddi, chwaraewyr, cefnogwyr, llywodraethu, cynhwysiant, datblygiadau cymunedol a chynrychiolaeth ieuenctid.
Wrth i bêl-droed Cymru barhau i dyfu ar ac oddi ar y cae, bydd yr Aelodau Cyngor newydd hyn yn chwarae rhan bwysig tra’n helpu i lunio pennod nesaf y gêm a sicrhau bod dyfodol pêl-droed yng Nghymru yn cael ei arwain gan Gyngor sydd n fwy cynrychioliadol, yn fwy amrywiol ac yn gyfoethocach ei arbenigedd nag erioed o’r blaen.

