Carfan Cymru D21 wedi’i chyhoeddi i wynebu Denmarc

The Cymru D21 players huddle

Mae Matty Jones wedi cyhoeddi ei garfan D21 Cymru ar gyfer eu gêm agoriadol yn rownd ragbrofol UEFA EURO D21 2027 yn erbyn Denmarc.

Mae Jones wedi dewis carfan efo 23 o chwaraewyr ar gyfer y gêm yn erbyn y tîm efo’r haen uchaf yng Nghrŵp I, a gynhelir yn Rodney Parade nos Lun 8 Medi (cic gyntaf 7:30pm).

Bydd Luke Harris, Ben Lloyd ac Ed James yn ymuno eto â’r garfan am y tro cyntaf ers mis Mawrth, tra bydd pedwar chwaraewr yn derbyn eu galwad gyntaf i’r tîm D21; Vimal Yoganathan, Gabriele Biancheri, Dan Cox a Kit Margetson.

Mae Joel Cotterill, Cian Ashford, Sam Parker a Luey Giles hefyd wedi’u cynnwys, ar ôl bod yn rhan o gamp ymarfer dan ofal Craig Bellamy ym mis Mai.

Bydd tîm Jones yn anelu at ddechrau eu hymgyrch gyda pherfformiad cryf, wrth iddynt geisio sicrhau lle mewn rowndiau terfynol UEFA EURO D21 am y tro cyntaf yn hanes Cymru.

Bydd Cymru yn wynebu grŵp heriol o bump tîm sy’n cynnwys Gwlad Belg, Awstria a Belarus, yn ogystal a Denmarc.

Carfan Cymru D21

Evan WATTS (Swansea City – on loan at Galway FC), Kit MARGETSON (Swansea City – on loan at Connah’s Quay Nomads), Luke ARMSTRONG (Cardiff City – on loan at Penybont FC), Archie HARRIS (AFC Bournemouth – on loan at Eastleigh FC), Luey GILES (Cardiff City), Zac WILLIAMS (Crewe Alexandra – on loan at Kilmarnock FC), Dan COX (Derby County – on loan at Walsall FC), Ben HAMMOND (Nottingham Forest), Ed JAMES (Exeter City), Sam PARKER (Swansea City), Alex WILLIAMS (West Bromwich Albion), Joel COTTERILL (Swansea City), Jonathan BLAND (Barnsley FC), Joel COLWILL (Cardiff City), Callum AGIUS (Crewe Alexandra), Cian ASHFORD (Cardiff City), Tanatswa NYAKUHWHA (Cardiff City), Cameron CONGREVE (Swansea City), Ben LLOYD (Swansea City – on loan at Newport County), Luke HARRIS (Fulham FC – on loan at Oxford United), Vimal YOGANATHAN (Barnsley FC), Chris POPOV (Leicester City), Gabriele BIANCHERI (Manchester United)

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.