Time is running out to take advantage of double ticket offer for Cymru WEURO matches

Carfan Cymru wedi’i chyhoeddi ar gyfer Armenia a Thwrci

Mae Rob Page wedi cyhoeddi carfan o 23 chwaraewyr ar gyfer dwy gêm olaf Rownd Ragbrofol UEFA EURO 2024 i ffwrdd o adref i Armenia (Dydd Sadwrn 18 Tachwedd) ac yn erbyn Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd (Dydd Mawrth 21 Tachwedd).

Bydd Brennan Johnson yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli allan mis diwethaf trwy anaf, a bydd Niall Huggins yn ymuno efo’r garfan am y tro gyntaf. Wnaeth Huggins cynrychioli’r tîm D21 yn 2021.

Mae Joe Morrell ar gael eto ar ôl colli dwy gêm oherwydd cerdyn coch, ond ni fydd y capten Aaron Ramsey ar gael oherwydd anaf.

Bydd dwy fuddugoliaeth yn sicrhau lle Cymru ym mhencampwriaeth UEFA EURO 2024 yn yr Almaen haf nesaf. Wnaeth Cymru curo Croatia 2-1 yn y gêm ragbrofol ddiwethaf a fydd Rob Page yn gobeithio adeiladu ar y llwyddiant yn Yerevan, cyn wynebu Twrci yn stadiwm orlawn yng Nghaerdydd i ddod ar rownd ragbrofol i ben. Mae Twrci wedi sicrhau lle yn y bencampwriaeth yn barod, gydag Armenia, Croatia a Chymru yn brwydro am y lle olaf ar gyfer haf nesaf.

Cymru: Wayne HENNESSEY (Nottingham Forest), Danny WARD (Leicester City), Tom KING (Wolverhampton Wanderers), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Joe RODON (Leeds United- On loan from Tottenham Hotspur), Tom LOCKYER (Luton Town), Chris MEPHAM (AFC Bournemouth), Ben CABANGO (Swansea City), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Connor ROBERTS (Burnley), Niall HUGGINS (Sunderland), Ethan AMPADU (Leeds United), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Jordan JAMES (Birmingham City), Joe MORRELL (Portsmouth), Harry WILSON (Fulham), David BROOKS (AFC Bournemouth), Dan JAMES (Leeds United), Nathan BROADHEAD (Ipswich Town), Liam CULLEN (Swansea City), Brennan JOHNSON (Tottenham Hotspur)m Kieffer MOORE (AFC Bournemouth), Tom BRADSHAW (Millwall).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.