Carfan Cymru wedi’i chyhoeddi ar gyfer Lloegr a Gwlad Belg

Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi carfan o 26 o chwaraewyr ar gyfer y gemau yn erbyn Lloegr yn Wembley (Dydd Iau 9 Hydref) a’r gêm ragbrofol Cwpan y Byd FIFA yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd (Dydd Mawrth 13 Hydref).

Mae Aaron Ramsey yn dychwelyd i’r garfan am y tro cyntaf ers iddo symud i Pumas UNAM ym Mecsico. Hefyd yn dychwelyd ar ôl colli allan ar y gemau mis diwethaf bydd Jay Dasilva, Joe Rodon, Ethan Ampadu a Nathan Broadhead.

Bydd Lloegr yn wrthwynebwyr cyfarwydd i Gymru fel un o’r gemau hynaf yn y byd pêl-droed rhyngwladol, gan fynd yn ôl i’r gêm gyntaf erioed a gafodd ei chwarae rhwng y ddau dîm ym mis Tachwedd 1879 yn y Kennington Oval yn Llundain. Y tro diwethaf i Gymru chwarae o flaen torf yn Stadiwm Wembley oedd o dan arweiniad Gary Speed ym mis Medi 2011, gyda cholled gul1–0 yng nghêm rownd ragbrofol UEFA EURO 2012.

Bydd y gêm yn erbyn Gwlad Belg yn un allweddol yn ymgyrch Cymru i gyrraedd pencampwriaeth Cwpan y Byd FIFA 2026 yng Ngogledd America yr haf nesaf. Fe wnaeth y ddau dîm wynebu ei gilydd ym Mrwsel ym mis Mehefin, lle wnaeth Cymru brwydro nol o fod tri gôl i lawr, ond wnaeth gôl hwyr gan Kevin De Bruyne sicrhau buddugoliaeth o 4–3 i’r tîm cartref.

Bydd 6,500 o gefnogwyr Cymru yn gwneud y daith i Lundain i fod yn rhan o’r Wal Goch yn Wembley. Bydd y gêm ragbrofol yn erbyn Gwlad Belg yn cael ei chwarae o flaen dorf orlawn yn rhan o achlysur arbennig arall yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda’r tocynnau’n gwerthu allan o fewn 24 awr i fynd ar werth i’r cyhoedd.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn eistedd yn y trydydd yng Nghrŵp J, un pwynt y tu ôl i Gogledd Macedonia ac ar bwyntiau cyfartal â Gwlad Belg, sydd â gêm ychwanegol i chwarae. Bydd enillwyr y grŵp yn sicrhau ei lle yng Nghwpan y Byd FIFA blwyddyn nesaf. Bydd pedair lle arall yn cael eu penderfynu drwy gemau ail-gyfle sy’n cynnwys y 12 tîm sydd yn gorffen yn ail yn ei grwpiau ragbrofol, a phedwar tîm o bencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd UEFA y llynedd.

Cymru: Karl DARLOW (Leeds United), Adam DAVIES (Sheffield United), Tom KING (Everton), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Jay DASILVA (Coventry City), Chris MEPHAM (West Bromwich Albion), Ben CABANGO (Swansea City), Joe RODON (Leeds United), Dylan LAWLOR (Cardiff City), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Ronan KPAKIO (Cardiff City), Ethan AMPADU (Leeds United), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Jordan JAMES (Leicester City, on loan from Stade Rennais), Liam CULLEN (Swansea City), Joel COLWILL (Cardiff City), Harry WILSON (FULHAM), Nathan BROADHEAD (Wrexham), Sorba THOMAS (Stoke City), Lewis KOUMAS (Birmingham City, on loan from Liverpool), Mark HARRIS (Oxford United), Kieffer MOORE (Wrexham), Aaron RAMSEY (Pumas UNAM), Brennan JOHNSON (Tottenham Hotspur), Daniel JAMES (Leeds United), David BROOKS (Bournemouth).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.