Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi carfan o 25 o chwaraewyr wrth i Gymru edrych i barhau â’u hymgyrch Cynghrair Cenhedloedd UEFA i ffwrdd yn erbyn Gwlad yr Iâ ac adref yn erbyn Montenegro.
Mae Joe Allen yn dychwelyd i bêl-droed rhyngwladol, ar ôl iddo wneud ei hun ar gael eto ar ôl ymddeol o ddyletswydd Cymru ar ôl Cwpan y Byd FIFA 2022, ac mae Rhys Norrington-Davies yn dychwelyd ar gyfer ei garfan gyntaf mewn mwy na dwy flynedd ar ôl anafiadau hir dymor.
Bydd David Brooks, Nathan Broadhead a Wes Burns hefyd yn cymryd rhan o garfan Craig Bellamy am y tro cyntaf ar ôl colli gemau’r mis diwethaf, ond bydd y chwaraewyr canol cae Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu yn methu allan oherwydd anafiadau.
Bydd Cymru yn teithio i Reykjavik i wynebu Gwlad yr Iâ ar ddydd Gwener 11 Hydref cyn wynebu Montenegro yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Llun 14 Hydref. Bydd Bellamy yn gobeithio parhau â’r y ddechrau cryf i’r ymgyrch Cynghrair Cenhedloedd UEFA a ddechreuodd gyda gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Twrci a buddugoliaeth 2-1 dros Montenegro mewn amodau anodd yn Nikšić.
Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Montenegro ar gael i’w prynu ar wefan docynnau FAW.
Cymru: Danny WARD (Leicester City), Adam DAVIES (Sheffield United), Karl DARLOW (Leeds United), Rhys NORRINGTON-DAVIES (Sheffield United), Owen BECK (Blackburn Rovers- On loan from Liverpool), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Ben CABANGO (Swansea City), Joe RODON (Leeds United), Chris MEPHAM (Sunderland- On loan from Bournemouth), Connor ROBERTS (Burnley), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Jordan JAMES (Stade Rennais), Joe ALLEN (Swansea City), Ollie COOPER (Swansea City), Sorba THOMAS (Nantes- On loan from Huddersfield), Wes BURNS (Ipswich Town), Nathan BROADHEAD (Ipswich Town), David BROOKS (Bournemouth), Brennan JOHNSON (Tottenham Hotspur), Harry WILSON (Fulham), Kieffer MOORE (Sheffield United), Mark HARRIS (Oxford United), Lewis KOUMAS (Stoke City- On loan from Liverpool), Liam CULLEN (Swansea City).
Cymru v Montenegro
Dydd Llun 14 Hydref, Stadiwm Dinas Caerdydd