Carfan Cymru wedi’i cyhoeddi ar gyfer Awstralia a Gwlad Pwyl

Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr ar gyfer y ddwy gêm gyfeillgar ryngwladol ym mis Hydref.

Bydd Cymru yn wynebu Awstralia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Sadwrn 25 Hydref (KO 2:00yp) cyn wynebu Gwlad Pwyl yn Rodney Parade, Casnewydd ar ddydd Mawrth 28 Hydref (KO 7:45yh).

Y gêm yng Nghaerdydd bydd y tro cyntaf erioed i Gymru chwarae yn erbyn y Matildas. Roedd Cymru a Gwlad Pwyl yn rhan o’u pencampwriaeth rhyngwladol gyntaf erioed yr haf hwn yn y rowndiau terfynol UEFA EWRO.

Yn dilyn y cyhoeddiad ei bod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, bydd Jess Fishlock yn chwarae ei gêm olaf i Gymru yn erbyn Awstralia. Mae’r CBDC yn gobeithio bydd cefnogwyr yn troi allan yn ei niferoedd i ddathlu yrfa anhygoel Fishlock.

Mae wyth chwaraewr heb gap yn rhan o’r garfan, gyda galwadau cyntaf i Mia Ross, Annie Wilding a Teagan Scarlett. Cymerodd y ddwy olaf ran mewn camp ymarfer ym Mhortiwgal cyn y rowndiau terfynol EWRO yn yr haf gyda Gwen Zimmerman, Scarlett Hill ac Amy Richardson, sydd hefyd wedi’u henwi yn y garfan.

Yn anffodus, mae chwech chwaraewr a oedd yn rhan o’r EWROs yn colli allan oherwydd anaf. Y rhai sydd ddim ar gael yw Josie Green, Ella Powell, Rhiannon Roberts, Lily Woodham, Rachel Rowe ac Esther Morgan.

Cyhoeddodd Kayleigh Barton ei hymddeoliad o bêl-droed ym mis Awst, a dyma’r gamp ryngwladol cyntaf heb ei chyfranogiad.

Mae tocynnau ar gyfer y dwy gêm y ar gael i’w prynu ar wefan docynnau CBDC, gyda phris o £10 i oedolion a £5 i blant, gyda gostyngiadau ar gael i aelodau’r Wal Goch.

Cymru

Olivia CLARK (Leicester City), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Poppy SOPER (Rugby Borough), Ceri HOLLAND (Liverpool), Amy RICHARDSON (Celtic), Annie WILDING (Portsmouth), Anna FILBEY (Watford), Hayley LADD (Everton), Gemma EVANS (Liverpool), Gwen ZIMMERMAN (Eclipse Select Soccer), Charlie ESTCOURT (DC Power), Teagan SCARLETT (Arsenal), Sophie INGLE (Bristol City), Alice GRIFFITHS (Rangers), Mia ROSS (Charlton Athletic), Angharad JAMES (Seattle Reign), Scarlett HILL (Manchester United), Lois JOEL (Newcastle United), Jess FISHLOCK (Seattle Reign), Carrie JONES (IFK Norrköping), Tianna TEISAR (Plymouth Argyle – on loan from Bristol City), Mared GRIFFITHS (Manchester United), Hannah CAIN (Leicester City), Ffion MORGAN (West Ham United), Elise HUGHES (Crystal Palace), Mary McAteer (Charlton Athletic).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.