
Bydd seremoni arbennig yn cyflwyno capiau i’r holl fenywod wnaeth chwarae pêl-droed dros Gymru rhwng 1973 ac 1993, yn cael ei chynnal ddydd Gwener 4 Hydref yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Fe wnaeth 94 o fenywod chwarae dros Gymru yn y cyfnod hynny, ond gan nad oedd y tîm dan ofal Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), doedd y chwaraewyr ddim yn derbyn capiau.
Mae’r digwyddiad, sydd wedi’i drefnu ar y cyd gan CBDC ac S4C, yn cyd-fynd â rhaglen ddogfen fydd yn adrodd hanes pêl-droed menywod yng Nghymru am y tro cyntaf erioed; Yr Hawl i Chwarae, fydd i’w gweld ar blatfformau S4C ar 22 Hydref.
Yn ogystal â’r seremoni fawr, bydd cyfle i weld rhannau o’r rhaglen ddogfen ac yna bydd Catrin Heledd yn cynnal dau sgwrs banel.
Bydd y panel cyntaf yn edrych yn ôl ar yr hanes gyda’r cyn-chwaraewr Michele Adams; cyn-Bennaeth Pêl-droed Merched a Menywod Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Lowri Roberts; a chyflwynydd y rhaglen ddogfen Yr Hawl i Chwarae, Ffion Eluned Owen.
Bydd yr ail banel yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod, yng nghwmni Prif Hyfforddwr tîm dan 19 Cymru Nia Davies; Uwch Rheolwr Gêm Llawr Gwlad Menywod a Merched CBDC Bethan Woolley; ac Is-Lywydd UEFA a’r cyn-chwaraewr, Laura McAllister. Bydd y sgwrs yma hefyd yn edrych ar waith y Gymdeithas ar eu strategaeth pêl-droed menywod a merched, ‘Ein Cymru: Amdani Hi’.
Caiff y noson ei ddarlledu’n fyw ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol CBC a’u gwefan ffrydio, RedWall+.
“Ar ôl gweithio’n galed dros y deunaw mis diwethaf yn casglu manylion cyswllt am y cyn-chwaraewyr o’r 70au a’r 80au, bydd hon yn noson arbennig iawn i ddathlu’r menywod a wnaeth ddechrau stori ein tîm cenedlaethol.”
“Bydd dros 40 o gyn-chwaraewyr yn derbyn eu capiau fel rhan o’r dathliadau, ac i’r rhai sydd methu bod yno, bydd capiau yn cael eu danfon mor bell â Chanada ac Awstralia lle mae rhai o’n cyn-chwaraewyr bellach yn byw.”
“Yn ogystal â dathlu’r cyn-chwaraewyr, bydd y noson yn edrych ymlaen at y dyfodol gyda’r Gymdeithas yn rhoi diweddariad trwy sgwrs banel am ein strategaeth ‘Ein Cymru: Amdani Hi’, sydd yn canolbwyntio ar gêm y merched a’r menywod yng Nghymru.”

Dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C.
“Mae’n wych i weld datblygiad gêm y menywod yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym ni yn S4C yn falch iawn i gefnogi’r twf hynny drwy ddangos mwy o gemau byw bob tymor o’r Genero Adran Premier.”
“Mae’r rhaglen ddogfen yma hefyd yn bwysig, er mwyn cydnabod cyfraniad y menywod ysbrydoledig sydd wedi gosod sylfaen i lwyddiant a phoblogrwydd y gamp heddiw.”
Dywedodd Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol S4C:
“Mae hanes pêl-droed menywod yn ran o hanes Cymru sydd heb ei gofnodi, ac rydw i wrth fy modd fod Yr Hawl i Chwarae am gyflwyno’r hanes yma am y tro cyntaf. Ychydig sy’n gwybod fod y gêm wedi’i wahardd am 50 mlynedd a bod Cymru hyd yn oed wedi curo Lloegr unwaith!”
Gyda chymorth y cyn-chwaraewr Michele Adams MBE a’r hanesydd John Carrier ymysg eraill, mae 94 o chwaraewyr wedi’u hadnabod o’r cyfnod hwnnw, ac mae gan CBDC manylion cyswllt ar gyfer 70 o’r chwaraewyr hyn. Nawr mae CBDC yn lansio galwad gyhoeddus er mwyn helpu i ddod o hyd i’r manylion cyswllt ar gyfer y gweddill, 24 cyn-chwaraewyr neu eu teuluoedd i helpu dathlu eu llwyddiannau.
Os oes gennych fanylion cyswllt ar gyfer chwaraewr neu aelod o deulu’r rhai a restrir isod, cysylltwch â press@faw.cymru. Ar gyfer y rhai na all fynychu’r noson gyflwyno ar nos Wener 4 Hydref, bydd y Gymdeithas yn ddarparu’r capiau trwy’r post.
Rhestr chwaraewyr heb fanylion
Pat Griffiths, Linda James, Ann Rice, Julie Yale, June Houldey, Barbara Jones, Christine Ross, Karen Atkins, Jean McCarthy, Wendy Wood, Jacqueline Butt, Nikki Groves, Suzy Faul, Jill Anson, Chris Coyle, Gill Bellis, Paula Cleeve, Val Williams, G Day, Delyth Wyn Jones, Jackie Weir (nee Jones), Annette Jones, T Heaton, Caroline Brunt.