
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi lansio Her Game, Ei Dyfodol, cynllun deng mlynedd sydd yn anelu i gael 40,000 o fenywod a merched yn chwarae pêl-droed ledled Cymru erbyn 2036, a sicrhau bod pob merch ym mhob ysgol yn cael y cyfle i chwarae.
Mae’r cynllun yn adeiladu ar Ein Cymru: Amdano Hi, strategaeth bwrpasol gyntaf CBDC ar gyfer pêl-droed menywod a merched, a lansiwyd yn 2021. Ers hynny, mae Cymru wedi cyrraedd y garreg filltir o 20,000 o chwaraewyr benywaidd, ac mae’r tîm cenedlaethol wedi cystadlu yn ei pencampwriaeth rhyngwladol gyntaf, sef UEFA Women’s EURO 2025.
Mae Cymru wedi ennill yr hawl i gyd-gynnal Cwpan y Byd Merched FIFA 2035 ochr yn ochr â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. I ferch sy’n cymryd ei chamau cyntaf yn y byd pêl-droed heddiw, mae hynny’n golygu gall nhw freuddwydio am wisgo crys Cymru a chynrychioli ei gwlad yng Nghwpan y Byd ar dir cartref. Mae Her Game, Ei Dyfodol yn amlinellu sut y bydd CBDC yn ei chefnogi ar hyd y daith, o’i gêm gyntaf yn yr ysgol neu gyda chlwb lleol, yr holl ffordd i’r tîm cenedlaethol.
Mae’r cynllun yn rhan o Llunio Cymru, strategaeth ddeng mlynedd CBDC i adeiladu Cymru hyderus, lwyddiannus a chynhwysol drwy bêl-droed.
Mae helpu mwy o ferched i barhau i chwarae pêl-droed drwy gydol eu harddegau yn ganolog i’r cynllun. Nod CBDC yw i haneru nifer y merched rhwng 12 a 17 oed sydd yn rhoi’r gorau i chwarae. Byddwn hefyd yn ehangu cyfleoedd pêl-droed anabledd ac yn cynnig mwy o ffyrdd i fenywod sy’n oedolion chwarae’n hamddenol, boed hynny drwy ddychwelyd at bêl-droed neu roi cynnig arni am y tro cyntaf.
Nod CBDC yw i ddyblu’r buddsoddiad mewn pêl-droed menywod a merched dros y degawd nesaf, gyda gwella mynediad at gaeau ymhlith ei blaenoriaethau. Mae’r cynllun hefyd yn anelu i gynyddu y nifer o hyfforddwyr benywaidd o 40%, a chynyddu bedair gwaith y nifer o ddyfarnwyr benywaidd.
Bydd Cynghreiriau’r Adran yn chwarae rhan ganolog yn natblygiad talent Cymreig ac yn paratoi chwaraewyr ar gyfer pêl-droed proffesiynol. Ar y llwyfan rhyngwladol, y nod yw i Gymru gyrraedd rowndiau’r wyth olaf yng Nghwpan y Byd Menywod FIFA 2035. Mae’r cynllun hefyd yn edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr i Gymru ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA.
Bethan Woolley, Pennaeth Pêl-droed Menywod a Merched CBDC:
“Pan fydd merch yn rhoi cynnig ar bêl-droed am y tro cyntaf, rydym am iddi wybod ble y gall chwarae eto yr wythnos nesaf. Gallai hynny fod yn yr ysgol neu mewn clwb yn agos at ei chartref. Mae angen i ni hefyd wrando ar y merched sy’n rhoi’r gorau i chwarae yn ystod eu harddegau a deall beth fyddai’n ei gwneud hi’n haws iddynt barhau. Mae hynny yr un mor bwysig â chael rhywun ar gae am y tro cyntaf.
“Mae cyrraedd 20,000 o chwaraewyr yn glod i’r bobl mewn clybiau a chymunedau ledled Cymru sydd wedi creu lle i fwy o fenywod a merched chwarae. Mae nhw’n gwybod pa mor fawr yw’r gwahaniaeth y mae cael cae ar gael ar adeg sy’n gyfleus i ferched, neu hyfforddwr sy’n cymryd yr amser i ddarganfod pam nad yw rhywun wedi dychwelyd, yn ei wneud. Dyna’r math o brofiad rydym am i bob chwaraewr ei gael wrth i ni weithio tuag at gyrraedd 40,000 o chwaraewyr.
“Gallai rhai o’r merched sy’n chwarae yng Nghymru heddiw wisgo crys Cymru yng Nghwpan y Byd yn 2035. Bydd eraill yn dod o hyd i dîm y byddant yn cynrychioli bob dydd Sul, yn codi chwiban neu’n dod yn hyfforddwr sy’n croesawu’r ferch nesaf drwy’r gatiau. Mae lle i bob un ohonynt ym myd pêl-droed Cymru.”
Noel Mooney, Prif Weithredwr CBDC:
“Yn rhywle yng Nghymru heddiw, mae merch yn chwarae pêl-droed gyda’i ffrindiau ac yn breuddwydio am wisgo crys Cymru. Gyda Chymru yn cyd-gynnal Cwpan y Byd Merched FIFA 2035 ochr yn ochr â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gallai hi un diwrnod gerdded allan o flaen y Wal Goch mewn Cwpan y Byd ar dir cartref. Fel cymdeithas, mae gennym gyfrifoldeb i roi pob cyfle iddi gyrraedd y nod hwnnw, ble bynnag yng Nghymru y bydd yn tyfu i fyny.
“Yn Llunio Cymru, rydym wedi gosod yr uchelgais o weld Cymru’n cyrraedd rowndiau’r wyth olaf yn 2035. Mae Her Game, Ei Dyfodol yn amlinellu’r gwaith sy’n dechrau nawr. Rydym am i ferched ym mhob ysgol gael cyfle i chwarae, i glybiau gael yr hyfforddwyr a’r amser ar gaeau sydd eu hangen arnynt, ac i’n Cynghreiriau Adran baratoi mwy o chwaraewyr Cymreig ar gyfer pêl-droed proffesiynol. Erbyn i ni groesawu’r byd yn 2035, rwyf am i fenywod a merched ledled Cymru allu gweld y gwahaniaeth sydd wedi’i wneud iddynt yn eu clwb lleol.”
Her Game, Ei Dyfodol
Cynllun Pêl-Droed Menywod A Merched 2026-2036