Bydd S4C yn darlledu holl gemau pêl-droed rhyngwladol dynion Cymru tan 2028 mewn cytundeb newydd mewn partneriaeth â Viaplay.
Mi fydd y ddarpariaeth Gymraeg yn cynnwys dwy ymgyrch nesaf Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ar gyfer 2024/25 a 2026/27, gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026 a gemau rhagbrofol UEFA EURO 2028.
Bydd gemau cyfeillgar rhyngwladol Cymru hefyd yn rhan o’r cytundeb hwn fydd yn gweld o leiaf 40 gêm fyw ar S4C.
Dywedodd Aaron Ramsey, Capten tîm dynion Cymru: “Mae’n newyddion gwych fod y gemau am fod ar gael i bawb ar S4C. Mae’n rhywbeth sydd hefyd yn hwb aruthrol i’r iaith Gymraeg. “Y nod i ni fel carfan yw cyrraedd rowndiau terfynol yr Ewros a Chwpan y Byd, ac rydym yn gobeithio bydd S4C yn rhannu ein llwyddiant gyda’r gwylwyr.”
Mae’r cytundeb rhwng y gwasanaeth ffrydio Viaplay a S4C yn bartneriaeth unigryw fydd yn caniatáu i S4C gael yr hawliau iaith Gymraeg yn ecsgliwsif yn y DU i ddarlledu’r gemau am ddim.
Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae ein partneriaeth gydag S4C wedi bod yn gonglfaen i dwf Y Wal Goch ac rydym yn hapus iawn fod gemau Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru am fod ar gael yn rhad ac am ddim i bawb. Rwyf am ddiolch i Viaplay, sydd wedi bod yn allweddol yn y cydweithio hyn i sicrhau bod ein gemau ar gael i bawb.”