
Gyda thristwch mawr mae CBDC yn nodi marwolaeth Trefor Lloyd Hughes MBE ,yn gyn Lywydd ar y gymdeithas ac un a roddodd oes o wasanaeth i fywyd pob dydd Cymru.
Brodor o Ynys Mon mi ddaeth yn bersonoliaeth cryf yng ngogledd Cymru ac yn 1989 cafodd ei ethol ar Gyngor CBDC.
Bu’n drysorydd , yn Is-Lywydd ac yn 2012 daeth yn Lywydd.
Bob tro yn barod i siarad, bob tro yn gwrtais a diymhongar roedd yn hynod o boblogaidd gyda staff y gymdeithas.
Roedd yn credu’n gryf yn y gymuned lleol a hynny yn cael ei amlygu yn ei waith fel Cynghorydd ar draws Ynys Mon.n Bu’ n Faer yng Nghaergybi.
Derbyniodd anrhydedd yr MBE ac roedd yn aelod hynod o falch o Orsedd yr Eisteddfod.
Roedd ei ddylanwad ar draws pel droed Cymru yn enfawr ar y lefel llawr gwlad ac ar y lefel rhyngwladol ble pan roedd eraill yn amau fe roddodd gefnogaeth cant y cant I Chris Coleman pan yn Lywydd.
Mae pawb yn CBDC yn meddwl am deulu Trefor a’ i ffrindiau ar amser trist iawn.