
Daeth lansiad crys cartref newydd Cymru gan Sudu â chefnogwyr wyneb yn wyneb â ‘The Thread That Leads Us Home’, ymgyrch a ysbrydolwyd gan y cysylltiadau parhaol rhwng pobl, lleoedd a thraddodiadau Cymru.
Er bod y crys ei hun yn cynrychioli dehongliad modern o dapestri Cymreig, roedd y broses greadigol y tu ôl iddo wedi’i seilio ar ymchwil fanwl a chydweithio helaeth.
Gan weithio’n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, bu Sudu yn archwilio hanes tecstilau a chrefftwaith Cymru er mwyn datblygu dyluniad a oedd yn gyfoes ond yn gwbl Gymreig. Roedd y broses honno’n cynnwys cydweithio ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, un o warchodwyr pwysicaf diwylliant a threftadaeth Cymru.
Yn gartref i adeiladau hanesyddol, casgliadau a straeon o gymunedau ledled Cymru, bu Sain Ffagan yn ffynhonnell amhrisiadwy o ysbrydoliaeth drwy gydol y broses ddylunio. Yn ogystal â bod yn gartref i hanes Cymru, mae’r amgueddfa yn ffynhonnell gyfoethog o ysbrydoliaeth ar gyfer dylunio Cymreig, gan gynrychioli cenedlaethau o greadigrwydd a hunaniaeth ddiwylliannol. Yn ystod eu hymweliad, bu’r tîm dylunio yn archwilio adeiladau hanesyddol yr amgueddfa a’i chasgliadau, gan weld cadeiriau Cymreig traddodiadol wedi’u crefftio â llaw a thecstilau, gan gynnwys amrywiaeth o flancedi a chwiltiau tapestri (brethyn dwbl) eiconig.
2026/28 Cymru Home Shirt
Available to buy now
Wrth i’r ymgyrch ddatblygu, daeth Sain Ffagan yn llawer mwy na ffynhonnell o ysbrydoliaeth.
Dewiswyd nifer o leoliadau yn safle awyr agored yr amgueddfa fel cefndir ar gyfer ffotograffiaeth a ffilm yr ymgyrch, gan ddarparu lleoliad a oedd yn adlewyrchu’r daith drwy hanes, crefftwaith a chymuned Cymru sydd wrth galon ‘The Thread That Leads Us Home’. Cynhaliwyd y ffilmio mewn sawl adeilad hanesyddol yn yr amgueddfa, gan gynnwys Ffermdy Kennixton, Siop ‘Gwalia Stores’, Llys Llywelyn a Sefydliad Gweithwyr Oakdale, pob un yn cynrychioli pennod wahanol yn hanes cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Benthycodd yr amgueddfa hefyd ddewis o wrthrychau o’i chasgliadau o arwyddocâd cenedlaethol ar gyfer sesiwn ffotograffiaeth arbennig gyda chwaraewyr o dimau cenedlaethol dynion a menywod Cymru. Creodd y darnau hyn, a ddewiswyd yn ofalus, gysylltiad gweledol uniongyrchol rhwng y crys cartref newydd a’r dreftadaeth a ysbrydolodd ei ddyluniad, gan helpu i osod y chwaraewyr o fewn stori ehangach am hunaniaeth, creadigrwydd a balchder cenedlaethol Cymru.
Mae’r cydweithrediad yn adlewyrchu lle pêl-droed o fewn stori ehangach Cymru. Tra bo Sain Ffagan yn diogelu’r traddodiadau sydd wedi siapio bywyd Cymreig dros genedlaethau, mae timau cenedlaethol Cymru yn parhau i ysgrifennu penodau newydd yn y stori honno ar y llwyfan rhyngwladol.


Y canlyniad yw crys cartref sydd wedi’i lunio nid yn unig drwy berfformiad ac arloesedd, ond hefyd drwy werthfawrogiad gwirioneddol o dreftadaeth Cymru. Datblygwyd pob elfen o’r dyluniad, o’i batrwm tapestri cyfoes i ddelweddau’r ymgyrch, gan roi ystyriaeth ofalus i’r traddodiadau sy’n parhau i ddylanwadu ar Gymru fodern.
Dywedodd Jane Richardson, Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru: “Mae’r casgliad cenedlaethol wrth galon popeth a wnawn, ac mae’n wych gweld ei fod yn parhau i ysbrydoli creadigrwydd. Mae Cymru wedi bod yn wlad greadigol erioed, ac mae hyn yn profi bod patrymau traddodiadol yn dal yn berthnasol heddiw. Nid yn unig y gallwch weld rhai o’r blancedi a’r patrymau traddodiadol hyn yn Sain Ffagan, ond hefyd yn ein Hamgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nrefach Felindre ger Castell Newydd Emlyn.
Mae rhoi Cymru ar y map byd-eang yn flaenoriaeth i ni yn Amgueddfa Cymru, ac rydym yn falch iawn o wybod y bydd hynny bellach yn digwydd ar gaeau pêl-droed ledled y byd drwy’r bartneriaeth hon gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Rydym yn falch ac yn freintiedig o gydweithio â’r Gymdeithas ar bob cyfle ac i gynorthwyo gydag unrhyw addysgu, drwy gyflwyno a chynefino’r chwaraewyr drwy gasgliad cenedlaethol Cymru.”


Gall cefnogwyr sydd am berchen y crys cartref newydd Cymru ei brynu bellach drwy Siop Cymru – Siop Bêl-droed Swyddogol Cymru, sydd wedi’i lansio ochr yn ochr â chyfnod newydd nwyddau swyddogol Cymru, gan gynnig y crys cartref newydd ac ystod eang o gynhyrchion swyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn un man pwrpasol.
Gwrthrychau a Ddefnyddiwyd yn y Sesiwn Ffotograffiaeth gyda’r Chwaraewyr
Roedd yr eitemau canlynol o gasgliad Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn rhan o’r sesiwn ffotograffiaeth arbennig gyda’r chwaraewyr:
Blanced dapestri (brethyn dwbl) – Wedi’i gwehyddu ar wŷdd cul ym 1926 gan Lewis D. Jones o Lambed.
Blanced dapestri (brethyn dwbl) – Wedi’i gwehyddu ym Melin Wlân Esgair Moel yn Amgueddfa Werin Cymru (bellach Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan), yn ôl pob tebyg yn gynnar yn y 1960au.
Blanced dapestri (brethyn dwbl) – Wedi’i gwehyddu tua 1890, o bosibl yn Ffatri Berwyn, Corwen.
Gorchudd gwely clytwaith – Wedi’i wneud ym Mlaenau Ffestiniog ar ddechrau’r 1900au, a chredir iddo gael ei greu o ddarnau o siwtiau a wisgwyd gan chwarelwyr lleol.
Cadair Eisteddfod Genedlaethol (Y Rhyl, 1953) – Dyfarnwyd i Ernest Llwyd Williams yng Ngŵyl Genedlaethol 1953 ac mae bellach yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Cadair – Cadair Gymreig draddodiadol, a elwir hefyd yn gadair ffyn.

