
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ceisio pontio’r bwlch rhwng pêl-droed Menywod D19 a’r Tîm Cenedlaethol, gan ddechrau camp ymarfer i dîm Menywod D23 ym mis Hydref.
Mae CBDC wedi bod yn gweithio y tu ôl i’r llenni ers sawl blwyddyn i ddechrau tîm D23, gyda nifer o wledydd Ewrop eisoes wedi sefydlu timau Menywod D23 er nad yw UEFA yn cynnig cystadlaethau swyddogol ar gyfer yr oedran hynny.
Bydd dechrau’r tîm dan oedran newydd hefyd yn cefnogi rhaglen ‘Talent ID’ Cymru, sy’n ceisio darganfod talent newydd yng Nghymru a thu hwnt, boed hynny drwy enedigaeth neu gysylltiadau teuluol.
Bydd Prif Hyfforddwr tîm D19 Cymru, Nia Davies, yn arwain y camp D23 ym Mhencadlys CBDC yn Hensol ym mis Hydref. Bydd y camp yn cyd-fynd ag amser y Tîm Cenedlaethol yn Hensol er mwyn galluogi cydweithio agos rhwng chwaraewyr a staff y ddwy garfan.
Dywedodd Prif Swyddog Pêl-droed CBDC, Dr David Adams: “Ein nod yw i ddatblygu dau chwaraewr y flwyddyn i’r Tîm Cenedlaethol Menywod er mwyn pontio’r bwlch rhwng y garfan Menywod D19 a’r tîm hŷn, gan sicrhau bod talent yn cael ei hadnabod ar draws y system. Byddwn yn targedu amseroedd penodol i fonitro chwaraewyr a fydd yn dod â manteision sylweddol.”
“Bydd y camp D23 yn sicrhau bod nifer o chwaraewyr sydd â photensial uchel ar draws y llwybr datblygu yn elwa ar fonitro pellach, gan gefnogi eu datblygiad yn y dyfodol.”
Yn dilyn y ffenestr ryngwladol, bydd adolygiad yn cael ei gynnal i gadarnhau cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer tîm Menywod D23 Cymru.

