Time is running out to take advantage of double ticket offer for Cymru WEURO matches

Carfan Cymru wedi’i cyhoeddi am gemau agoriadol Cynghrair y Cenhedloedd

Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr i wynebu Gwlad yr Iâ (Dydd Gwener 22 o Fedi) a Denmarc (Dydd Mawrth 26 o Fedi) yn gemau agoriadol pencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA.

Bydd Rachel Rowe yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli’r gêm ddiwethaf yn erbyn y UDA yn San Jose, ond ni fydd yr ymosodwr Hannah Cain ar gael oherwydd anaf. Mary McAteer a Lauren Thomas yw’r ddau chwaraewr ddi-gap yn y garfan. Mae Thomas, yn wreiddiol o Wrecsam, yn derbyn ei galwad gyntaf hi i’r garfan.

Mae’r gemau yn dechrau’r bencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA, y tro gyntaf i’r gystadleuaeth cymryd lle. Bydd Cymru yn wynebu Gwlad yr Iâ, Denmarc ac yr Almaen yng Nghrŵp A, efo’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle cynnar i Gymru sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle i gyrraedd pencampwriaeth UEFA EURO Menywod yn 2025. Mae mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA ar gael yma.

Gall cefnogwyr archebu tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Denmarc (19:15 Dydd Mawrth 26 o Fedi) yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar wefan tocynnau CBDC, efo prisiau am £10 i oedolion a £5 i blant a phris gostwng i aelodau o’r Wal Goch.

Cymru: Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Olivia CLARK (Watford – On loan from Bristol City), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Rhiannon ROBERTS (Real Betis), Charlie ESTCOURT (Reading), Hayley LADD (Manchester United), Josie GREEN (Leicester City), Gemma EVANS (Manchester United), Lily WOODHAM (Reading), Esther MORGAN (Heart of Midlothian), Ella POWELL (Bristol City), Sophie INGLE (Chelsea), Angharad JAMES (Tottenham Hotspur), Anna FILBEY (Crystal Palace), Jess FISHLOCK (OL Reign), Ceri HOLLAND (Liverpool), Ffion MORGAN (Bristol City), Megan WYNNE (Southampton), Rachel ROWE (Rangers), Carrie JONES (Bristol City), Kayleigh GREEN (Charlton Athletic), Elise HUGHES (Crystal Palace), Mary MCATEER (Sunderland), Chloe WILLIAMS (Blackburn Rovers), Alice GRIFFITHS (Southampton), Lauren THOMAS (Blackburn Rovers).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.