
Mae carfan o 23 chwaraewyr wedi’i chyhoeddi gan Rhian Wilkinson ar gopa’r Wyddfa ar gyfer pencampwriaeth UEFA EWRO Menywod 2025 yn y Swistir.
Angharad James bydd y gapten ac mae’n un o bedwar o chwaraewyr sydd wedi cynrychioli Cymru dros gant o weithiau, ynghyd â Jess Fishlock, chwaraewr mwyaf profiadol Cymru, Hayley Ladd, a Sophie Ingle. Mae Ingle yn ôl yn y garfan ar ôl gwella o anaf ACL.
Bydd Cymru’n wynebu enillwyr y ddwy pencampwriaeth EWRO ddiwethaf – Lloegr (2022) a’r Iseldiroedd (2017), yn ogystal â Ffrainc, a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol yn 2017. Bydd y ddau tîm sydd yn gorffen yr uchaf yn y grŵp yn symud ymlaen i’r rownd wyth olaf.
Bydd tîm Wilkinson yn dechrau’r pencampwriaeth yn Lucerne yn erbyn yr Iseldiroedd ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf (Cic gyntaf 5pm BST), cyn teithio i St. Gallen i wynebu Ffrainc (8pm BST, dydd Mercher 9 Gorffennaf) a Lloegr (8pm BST, dydd Sul 13 Gorffennaf). Bydd dros 2,000 o gefnogwyr Cymru yn y Wal Goch ar gyfer pob gêm, a Cymru fydd un o’r timau gyda’r mwyaf o gefnogwyr yn y Swistir.
Cafodd y garfan ei chyhoeddi ar gopa’r Wyddfa, sydd yn 1,085 metr uwchben lefel y môr ac yn edrych dros Barc Cenedlaethol Eryri yng ngogledd Cymru. Bydd cynhadledd i’r wasg arbennig a sesiwn cyfryngau yn cael eu cynnal yn Hafod Eryri ar gopa’r mynydd.
Bydd aelodau’r cyfryngau sydd yn mynychu’r digwyddiad yn teithio i’r gopa ac yn ôl ar Reilffordd Mynydd yr Wyddfa.
Yn ogystal a’r gweithgareddau ar yr Wyddfa, bydd Rhian Wilkinson yn ymweld â CPD Talysarn ar gyfer gŵyl bêl-droed ar gae a ariennir gan y Cymru Football Foundation yn Nhalysarn, ac yna’n mynychu digwyddiad Gŵyl Cymru gyda sesiwn holi ac ateb a pherfformiad gan y band Adwaith yn Neuadd Ogwen, Bethesda.
Bydd Cymru’n teithio o Gaerdydd ar ddydd Sul 22 Mehefin ar gyfer camp ymarfer ym Mhortiwgal am wythnos i baratoi ar gyfer yr EWROs. Byddant wedyn yn cyrraedd y Swistir ar ddydd Sul 29 Mehefin, lle bydd y tîm yn lleoli ei hun yn Lipperswil ac Weinfelden yng nghantwn Thurgau.
Cymru: Olivia CLARK (Leicester City), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Poppy SOPER (Unattached), Charlie ESTCOURT (DC Power), Gemma EVANS (Liverpool), Josie GREEN (Crystal Palace), Hayley LADD (Everton), Esther MORGAN (Sheffield United), Ella POWELL (Bristol City), Rhiannon ROBERTS (Unattached), Lily WOODHAM (Seattle Reign), Jess FISHLOCK (Seattle Reign), Alice GRIFFITHS (Unattached), Ceri HOLLAND (Liverpool), Sophie INGLE (Unattached), Angharad JAMES (Seattle Reign), Lois JOEL (Newcastle United), Rachel ROWE (Southampton), Kayleigh BARTON (Unattached), Hannah CAIN (Leicester City), Elise HUGHES (Crystal Palace), Carrie JONES (IFK Norrköping), Ffion MORGAN (Bristol City).